P-05-978 Caniatáu i’r holl sŵau ac atyniadau bywyd gwyllt ailagor gyda chamau cadw pellter cymdeithasol ar waith ledled Cymru

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Susan Stuart, ar ôl casglu cyfanswm o 248 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Mae’n hanfodol bod sŵau ac atyniadau bywyd gwyllt, gyda’u herwau o dir a mannau agored eang, yn cael caniatâd ar unwaith i ailagor. Gyda chamau cadw pellter cymdeithasol ar waith, gallai’r cyfleusterau hyn fod yn fwy diogel na chyfleusterau eraill, megis marchnadoedd awyr agored, sydd eisoes wedi cael caniatâd i ailagor.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae sŵau â rhan hanfodol ym maes cadwraeth, yng Nghymru a ledled y byd. Mae sefydliadau’n gwario miliynau bob blwyddyn yn ariannu gwaith cadwraeth sy’n helpu i ddiogelu cynefinoedd ac anifeiliaid mewn perygl difrifol.
Mae’r gwaith cadwraeth hwn wedi dod dan fygythiad oherwydd bod sŵau wedi parhau i fod ar gau oherwydd diffyg cymorth gan y llywodraeth.
Nid yw’r gost o ofalu am anifeiliaid yn diflannu pan nad yw ymwelwyr yno ac mae’n hanfodol y cânt ailagor ar unwaith.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Llanelli

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru